CYPE(5)-20-19 – Papur i’w nodi 8
21 Mehefin 2019
Gwella canlyniadau i blant
Yn gynharach eleni, ysgrifennais at Brif Weinidog Cymru i ofyn am wybodaeth ynghylch y gwaith sydd ar y gweill i fodloni ei ymrwymiadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Cafodd y Pwyllgor ymateb ar 16 Ebrill 2019.
Ymhellach i’r ohebiaeth hon, fe’m gwnaed yn ymwybodol fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod pryderon ynghylch y disgwyliadau o ran lleihau nifer y plant sy’n derbyn gofal.
Fel Pwyllgor, rydym yn cydnabod bod y ffrwd gwaith cyntaf o raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella canlyniadau i blant yn cyfeirio at leihau niferoedd y plant sy’n derbyn gofal mewn modd diogel. Serch hynny, rydym yn pryderu am y materion a godwyd â ni, gan gynnwys yr awgrym y bydd disgwyl i awdurdodau lleol osod targedau fel ffordd o ysgogi lleihad yn niferoedd y plant sydd angen gofal.
Er mwyn deall yn iawn beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ddarparu rhagor o wybodaeth am eich dealltwriaeth chi o’r materion a ganlyn:
· sut y bydd nodau’r ffrwd gwaith a’r rhaglen ehangach yn gweithio’n ymarferol ar lefel genedlaethol ac ar lefel awdurdodau lleol;
· natur a nodau unrhyw dargedau a fydd yn cael eu cyflwyno;
· (os cyflwynir targedau), pwy fydd yn gyfrifol am eu gosod, cynnal asesiad risg ar eu cyfer, a monitro eu heffaith.
Byddaf yn ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am eglurhad ynghylch yr uchod, ynghyd â Chomisiynydd Plant Cymru i ofyn am ei barn ar y materion hyn. Byddaf yn rhannu copi o’r holl ohebiaeth berthnasol â’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn rhinwedd ei waith ar blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, yn ogystal â David Melding AC fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Wella Canlyniadau i Blant.
Yn gywir
Lynne Neagle AC
Cadeirydd
Cc Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
David Melding AC, Cadeirydd y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Wella Canlyniadau i Blant